Cyflwyniad i Asesu Siarad
Cwrs ALTE Tachwedd 9 - 10, 2009
Dr Lynda Taylor, ymgynghorydd ar gyfer arholiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, Prifysgol Caergrawnt oedd tiwtor y cwrs dau ddiwrnod hwn, a gynhaliwyd ym Maynooth, Iwerddon. Cwrs rhagarweiniol oedd hwn, oedd yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol asesu ac yn edrych ar rai problemau gweinyddol y dylid eu hystyried wrth asesu siarad. Trafodwyd egwyddorion sylfaenol cynllunio profion siarad a chafwyd sesiynau manwl ar gynllunio a chynhyrchu profion, dilysu profion, y broses farcio a fframweithiau marcio.
Wrth asesu iaith dyn ni’n ceisio mesur nodwedd anweladwy, sef gallu ieithyddol, a rhaid i ni wneud hynny ar sail ‘ymddygiad arsylladwy’ mewn sefyllfa asesu iaith h.y. cyflawniad unigolyn mewn prawf neu arholiad.
Wrth greu prawf rhaid bod yn ymwybodol o’r gallu ieithyddol y gellir ei ddisgwyl gan ddysgwyr ar y lefelau gwahanol. Rhaid ystyried yr hyn y dylai’r ymgeiswyr allu ei wneud yn yr iaith darged h.y. dylai’r prawf adlewyrchu defnydd real yr ymgeiswyr o iaith mewn bywyd go iawn. Dylem gynllunio profion siarad fel bod cyflawniad unigolyn yn y prawf yn adlewyrchu ei ddefnydd o’r iaith darged yn gyffredinol tu allan i’r sefyllfa brawf.
Mae defnyddioldeb prawf yn dibynnu ar:
- Ddilysrwydd - y graddau dyn ni’n gallu ystyried bod sgôr y prawf yn adlewyrchu gallu’r ymgeiswyr a bod y prawf yn profi’r hyn y mae’n honni’i brofi. Ni ddylai brofi sgiliau na gwybodaeth ar wahân i’r rhai y mae’n honni’u profi.
- Dibynadwyedd - y graddau y mae’r sgôr yn gyson ac yn gywir. Rhaid medru dibynnu ar ganlyniadau’r prawf a rhaid bod amodau’r arholiad a’r marcio’n gyson i bawb.
- Effaith - yr adlif neu’r effaith y mae’r prawf yn ei gael ar ymgeiswyr ac eraill. Gall hyn fod yn bositif neu’n negyddol.
- Ymarferoldeb - y graddau y mae prawf yn ymarferol yn ôl yr adnoddau sydd eu hangen i’w gynnal.
Wrth gynllunio prawf rhaid ystyried: nodweddion corfforol/ffisiolegol, seicolegol a phrofiad yr ymgeiswyr; a ydy’r prosesau ymenyddol angenrheidiol ar gyfer cwblhau tasgau’r prawf yn briodol, ac a ydy nodweddion tasgau’r prawf yn briodol ac yn deg i’r ymgeiswyr.
Mae sawl ffordd o brofi gallu llafar a cheir dewis eang o’r math o dasg y gellir ei defnyddio e.e.
- Darllen yn uchel
- Dynwared h.y. ailadrodd brawddegau
- Sgwrsio
- Cyflwyniad llafar
- Cyflwyno pwnc heb gael amser i baratoi ymlaen llaw
- Cyflwyno pwnc ar ôl cael amser i baratoi
- Trosglwyddo gwybodaeth e.e.
- Dweud stori gan ymateb i sbardun
- Ateb cwestiynau am lun
- Tasgau cyd-adweithio llafar e.e.
- Tasgau bwlch gwybodaeth
- Chwarae rôl
- Tasgau bwlch gwybodaeth
- Cyfweliad
- Rhydd
- Strwythuredig
- Rhydd
- Trafodaeth
- Ymgeisydd - ymgeisydd
- Ymgeisydd - arholwr
- Ymgeisydd - ymgeisydd
Mae manteision ac anfanteision ynghlwm wrth bob un, wrth gwrs, ac mewn arholiad ffurfiol defnyddir sawl tasg wahanol.
Mae siarad yn elfen bwysig iawn o allu ieithyddol ac felly rhaid ei brofi, ond gall fod yn anodd sicrhau bod y marcio’n ddibynadwy. Fel arfer defnyddir fframwaith marcio sy’n cynnwys disgrifiadau sy’n crynhoi gallu’r ymgeisydd yn ôl graddau gwahanol; bydd pob marciwr yn dilyn y fframwaith fel eu bod yn marcio mewn ffordd debyg i’w gilydd a bod cysondeb yn y marciau. Mae sgôr ymgeisydd mewn prawf llafar yn fwy dibynadwy os ydy’r prawf wedi cael ei farcio gan sawl marciwr ond wedyn rhaid ystyried ymarferoldeb hynny. Yn yr arholiadau Cymraeg i Oedolion bydd ail, neu weithiau drydydd, arholwr yn gwrando ar sampl o’r tapiau i sicrhau eu bod wedi’u graddio’n deg ac yn gyson.
Mae modd marcio mewn dull holistig neu analytig a defnyddir fframwaith gyda’r ddau ddull:
- Marcio holistig: defnyddir fframwaith disgrifiadol a rhoddir marc cyfansawdd am y sgwrs yn ei chyfanrwydd. Mae’n gyflym a gall fod yn fwy naturiol na marcio analytig ond dydy hi ddim yn bosibl defnyddio’r dull ar gyfer asesu ffurfiannol a gall perfformiadau tra gwahanol gael yr un sgôr.
- Marcio analytig: bydd y marciwr yn rhoi marc am sawl agwedd ar yr iaith e.e. cywirdeb, ystod, llif, rhyngweithio, argraff a phriodoldeb a bydd yn rhoi canran o farciau i bob categori. Gall y dull hwn roi gwybodaeth ddiagnostig; mae’n glir, yn fanwl ac yn ddibynadwy ond mae’n cymryd llawer o amser.
Roedd y cwrs yn arbennig: perthnasol, defnyddiol a diddorol. Dim ond braslun ohono dw i wedi’i roi i chi, ond pe hoffech wybodaeth ychwanegol basai’r llyfrau canlynol yn ddefnyddiol:
Taylor, L. (Gol.) Examining speaking: Research and practice in assessing second language speaking. Cambridge: UCLES/Cambridge University Press, (i’w gyhoeddi’n fuan).
Weir, C.J. Language Testing and Validation: an Evidence-Based Approach. Palgrave Macmillan, 2005.
Luoma, S Assessing Speaking. Cambridge: Cambridge University Press, 2004.
Hoffwn ddiolch i CBAC am y cyfle i fynychu’r cwrs.
Janette Jones